Capel y Groes, Penygroes

 

imageEnw’r Eglwys: Capel y Groes

Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Heol Buddug, Penygroes LL54 6HD

Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Gwenda Richards B.Ed., B.D. abermenai@btinternet.com

Swyddogion yr Eglwys:
Ysgrifennydd : Mr. Robert Morris (01286 881705)
Is-Ysgrifennydd yr Eglwys: Mr. John Pritchard
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau : Mrs. Delyth Elias
Trysorydd : Mrs Beryl Fretwell



Hefyd : Miss Dilys O’Brian Owen, Miss Karen Owen

Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys (hy cyfarfodydd wythnos ac oedfaon y Sul):
Oedfaon y Sul : 10.00 y bore
Yr Ysgol Sul: 11.15-12.00 yn ystod tymor yr ysgol
Paned a Sgwrs: 10.00-12.00 dydd Gwener olaf y mis. Ni fydd sesiwn yn ystod mis Awst.

Sefydlwyd Capel y Groes yn 2001 trwy uniad dau achos Presbyteraidd ym Mhenygroes, sef Bethel a Saron. Agorwyd ein capel newydd, pwrpasol yn 2003. Mae gennym 115 o aelodau a daw tua 15 o blant i’r Ysgol Sul yn rheolaidd. Rydym yn un o wyth eglwys yng Ngofalaeth Bro Lleu ac, ers 2010, yn cael bendith fawr o fod dan Weinidogaeth y Parch. Deian Evans.

Cynhaliwn oedfa foreuol am 10.00 ar y Sul, gyda’r Ysgol Sul yn dilyn am 11.15. Bydd Seiat, neu Gylch Trafod, yr Ofalaeth yn cwrdd yma bob yn ail ag yn Eglwys y Bryn drwy’r gaeaf. Ar ddydd Gwener olaf bob mis, gwahoddir pawb i daro i mewn i’r capel am Baned a Sgwrs, a derbynnir rhoddion at elusennau gwahanol bob blwyddyn. Pob mis Medi, bydd aelodau o’r Eglwys yn trefnu Pererindod: treulir y Sul hwnnw ar daith ddiddan mewn bws o gylch mannau gwahanol o ddiddordeb crefyddol, gyda seibiant am ginio blasus ar y ffordd.

Mae traddodiad cryf o gydweithio undebol ym Mhenygroes. Trefnir cylchdaith o oedfaon undebol dros bedair eglwys y pentref yng Ngorffennaf ac Awst a Gwasanaethau Cymun undebol ar fore’r Groglith a bore’r Nadolig. Cydweithia’r eglwysi, hefyd, i hybu Apêl Cymorth Cristnogol ac ymgyrch “Christmas Child” bob blwyddyn. Cynhelir Cymdeithas Lenyddol Undebol Penygroes ar nos Fawrth yn ystod y Gaeaf.

28.02.17 Criw Paned a Sgwrs yn cyflwyno siec o £400 i Ward y Plant Ysbyty Gwynedd llongyfarchiadau
Dyma griw ffyddlon Paned a Sgwrs Capel y Groes, Penygroes yn cyflwyno siec o £400 i Ward y Plant Ysbyty Gwynedd drwy law Meleri, Arweinydd Tim Ward y Plant. Fe gasglwyd yr arian yn ystod 2016 wrth i'r capel agor ei ddrysau ar y dydd Gwener olaf yn y mis i gynnig paned a chyfle am sgwrs i bobl yr ardal. Mae'r 'Baned' yn mynd ers nifer o flynyddoedd bellach a sawl gwahanol achos da wedi elwa. Diolch i bawb am bod cefnogaeth a chofiwch bydd croeso cynnes yma drwy gydol 2017 hefyd.


25.10.16 Llongyfarch ac Ordeinio
llongyfarchiadau
Yn Henaduriaeth Arfon a gyfarfu yng Nghapel y Groes, Penygroes ar 18 Hydref ordeiniwyd Dr Gwilym Siôn Pritchard yn flaenor yng Nghapel y Groes. Llongyfarchwyd y Parchg Reuben Roberts hefyd ar 50 mlynedd ei ordeiniad, ynghyd â Mr Ieuan Humphreys fu’n flaenor gynt ym Mrynmenai ac sydd bellach yn aelod ym Merea Newydd. Cafwyd anerchiad clir a phwrpasol gan Mr Gwyn Roberts, Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd, a llywyddwyd y cyfarfod yn gymen a graenus gan y Parchg Cath Williams.


12.06.16 Bedydd Noa Gwilym a Gruffydd Llwyd

bedydd Bore Sul, 12 Mehefin 2016, bedyddiwyd Noa Gwilym a Gruffydd Llwyd yng Nghapel y Groes, Penygroes. Dau frawd yw Noa a Gruffydd, meibion Dr Gwilym Sion Pritchard a’i briod Elen. Cafwyd oedfa hyfryd yng nghwmni teulu a ffrindiau a pharatowyd lluniaeth i bawb ar derfyn yr oedfa. Gan na allai Manon, Mam Fedydd yr hogia a chwaer Gwilym Sion, fod yn bresennol yn yr oedfa, trefnwyd iddi ymuno yn y gweithgareddau trwy gyfrwng ‘skype’! Technoleg fodern ar ei orau! Gweinyddiwyd y sacrament gan y Parchedig Gwenda Richards, gweinidog yr eglwys.
bedydd

Pererindod 2016

pobl a babi

Bu disgwyl mawr ymhlith aelodau Capel y Groes am Bererindod flynyddol yr eglwys oedd eleni'n ymweld â Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. 'Chafodd neb ei siomi. Am 9 o'r gloch fore Sul, 18 Medi, cychwynodd llond bws o aelodau a ffrindiau Capel y Groes ar eu taith. Awr a hanner yn ddiweddarach, cyrraedd, cael panad, ac yn syth i mewn i'r Ffynnon. Yn dilyn cyflwyniad byr gan y Gofalwr, cafodd pawb rwydd hynt i fwynhau'r awyrgylch hynafol dan heulwen tyner dechrau'r hydref. Mentrodd ambell un dynnu'i sanna a throchi traed yn nŵr clir y ffynnon. Uchafbwynt ein hymweliad fu cynnal oedfa yn yr hen gapel dan arweiniad Karen Owen, John Pritchard a Gwenda Richards. Gan mai ein bwriad oedd ymweld â Bryn Siriol, cartref David Lloyd a chartref Rhys Jones, canwyd cyfieithiad George Rees o emyn John Browning 'Yng nghroes Crist y gorfoleddaf' ar y dôn Lausanne, ac emyn Glyndwr Richards 'Pan dorro'r wawr dros ael y mynydd llwm' ar y dôn Caryl gan Rhys Jones Yn dilyn pryd o fwyd blasus yn y Stamford Gate yn Nhreffynnon, ymlaen â ni wedyn i weld y ffynnon yn Ffynnongroyw, cyn troi am adra trwy Drelogan gan basio heibio i Fryn Siriol, cartra David Lloyd.

Diolchir i Karen Owen am ein harwain ar y Bererindod ac iddi hi a Delyth Elias am ei threfnu. Edrychir ymlaen yn eiddgar at y Bererindod nesa yn 2017!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Bore Sul 20 Rhagfyr 2015

pobl a babi

Roedd oedfa bore Sul 20 Rhagfyr yng Nghapel y Groes dan ofal aelodau’r eglwys. Cafwyd oedfa hyfryd gyda nifer o’r aelodau yn cymeryd rhan. Uchafbwynt yr oedfa fu gwrando ar Gor y Capel yn canu nifer o garolau. Gobeithir gweld y Cor yn mynd o nerth i nerth!




Bedydd Ela Grug

pobl a babi

Bore Sul, 8 Tachwedd, daeth teulu a ffrindiau Ela Grug i Gapel y Groes i rannu yn llawenydd achlysur ei bedydd. Gweinyddiwyd y sacrament gan y Gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards. Merch Gwenan a Steffan yw Ela, ac er mai yng Nghaerdydd y maent yn byw ar hyn o bryd, mae gwreiddiau Gwenan ym Mhenygroes lle cafodd ei magu.

Llongyfarchiadau iddynt fel teulu a dymunir pob bendith iddynt i’r dyfodol.


Bedydd yng Nghapel y Groes

pobl a babi

Cafwyd oedfa hyfryd yng Nghapel y Groes bore Sul, 19 Gorffennaf, wrth i'r gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards, fedyddio Gwydion Pedr, mab Peter Wyn a Tesni Gwenllian Glyn Jones, Llanllyfni, a brawd bach Nanw.

Cyflwynwyd y Dystysgrif Fedydd i'r rhieni gan Delyth Elias, ysgrifennydd yr eglwys a'r cyfeilydd oedd Karen Owen. Yn y llun gwelir y teulu yng nghwmni'r gweinidog.




‘Ganllath o gopa’r mynydd…’

Karen Owen

Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2015, fel rhan o ŵyl undydd i ddathlu tirwedd a llenyddiaeth Dyffryn Nantlle cafwyd cyfle i weld Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes. Dyma Gadair Bardd yr Haf, sef y gadair a enillodd R.Williams Parry am ei awdl ‘Yr Haf’ yn yr Eisteddfod honno. Roedd y Neuadd dan ei sang a’r wefr yn drydannol wrth i bawb fanteisio ar y cyfle i dynnu llun y Gadair a roddwyd ar fenthyg i Benygroes am gyfnod byr iawn ar y diwrnod arbennig hwnnw.

Yn dilyn hynny, aeth tua cant o bobl ar daith gerdded yng nghwmni’r bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen. Cawsom ein tywys ar draws y Dyffryn i fannau oedd â chyswllt agos â Bardd yr Haf, a braint fu gwrando ar Karen yn egluro’r cysylltiadau hynny yn hynod o ddiddorol. Yn ystod y daith gofynnwyd i bawb adrodd soned enwg R Williams Parry i’r ‘Llwynog’ a dyna brofiad fu bod yn rhan o Gôr Adrodd enfawr a’r geiriau’n diasbedain ar draws y Dyffryn.

Dwyawr o daith hynod o gofiadwy a chyfle ar y diwedd i rannu argraffiadau uwchben panad yng nghaffi Pant Du.

Bu taith gerdded yn ystod y bore yng nghwmni Twm Elias a chafwyd cyfle yn yr hwyr i holi Eric Jones, yr anturiaethwr.

Diolch i bawb a drefnodd yr Ŵyl, yn arbennig Angharad Tomos. Edrychwn ymlaen at yr Ŵyl y flwyddyn nesa.

Am fwy o luniau, cliciwch yma.


Taith Gerdded Capel y Groes
Bore Sadwrn, 20 Mehefin 2015

Bore Sadwrn, 20 Mehefin aeth rhai o aelodau Capel y Groes, Penygroes,  ar daith gerdded i godi arian at Apêl y Llywydd, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, sef apêl i godi arian at Ysbyty Goffa Dr H. Gordon Roberts yn  Shillong.  Roedd y daith yn cychwyn wrth y capel am 10.30 o'r gloch ac yn terfynnu yng nghaffi Pant Du lle cafwyd cyfle i ymlacio a sgwrsio uwchben cinio ysgafn.  Roedd yr hynaf yn ein plith dros 90 mlwydd oed a'r ieuengaf ond ychydig fisoedd oed yn unig. Er gwaetha'r glaw cafwyd taith hyfryd ar draws gwlad ym Mro Lleu a bu'r cymdeithasu ar y daith ac yn y caffi yn werth chweil. Mae sawl llun o'r daith ar y wefan.

Am fwy o luniau, cliciwch yma.


Cyfarfod Sefydlu’r Parchedig Gwenda Richards
Bugail Newydd i Naw Eglwys Gofalaeth Bro Lleu, Henaduriaeth Arfon

rhes o blant
Noson fwyn o wanwyn oedd hi pan ddaeth tyrfa luosog i Gapel y Groes, ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle, ar gyfer cwrdd arbennig iawn. Ar nos Fercher, Mai 20fed, roedd y capel dan ei sang ar gyfer Cyfarfod Sefydlu’r Parch. Gwenda Richards yn Weinidog ar eglwysi Gofalaeth Bro Lleu.

Cyn galw gweinidog cytunodd Pwyllgor Bugeiliol yr Ofalaeth ar fodel newydd o weinidogaeth, priodol i oes a sefyllfa newydd. Lluniwyd dogfen arloesol, “Gwahoddiad i Weinidogaethu”, a gefnai ar y syniad traddodiadol o Weinidogaeth a chynnig partneriaeth cydweithredol rhwng y Bugail ac aelodau’r eglwysi; ac yn estyn allan, hefyd at gyrff ac asiantaethau gwirfoddol a chyhoeddus, grwpiau cymunedol, ysgolion a chymdeithasau ledled y fro.

Ffrwyth cyntaf y prosiect hwn, felly, fu sefydlu’r Gweinidog newydd. Fe arweiniwyd y cwrdd gan Lywydd Henaduriaeth Arfon, y Dr. W. Gwyn Lewis, ac ef, hefyd, a lywiodd ddefod y Gwasanaeth Sefydlu. Cafwyd darllen o’r Ysgrythur gan y Parch. Cath Williams, sydd yn aelod yng Nghapel Baladeulyn, a gweddi gan y Parch. Marcus Wyn Robinson, a fu yn gynrychiolydd yr Henaduriaeth i’r Pwyllgor Bugeiliol. Canwyd unawd gan un o flaenoriaid yr Ofalaeth, Mr. Arthur Wyn Parry, Bwlan.

Offrymwyd gweddi ar ran yr Ofalaeth gan y Parch. Megan Williams, a mynegwyd gwerthfawrogiad o waith y Parch. Gwenda Richards, ar ran ei gofalaeth flaenorol, sef Eglwys Seilo,Caernarfon, ac Eglwys y Waun, Waunfawr, gan y Dr. W. Gwyn Lewis, sydd yn flaenor yn Seilo.

Croesawyd y Parch Gwenda Richards, ar ran Gofalaeth Bro Lleu, gan Gadeirydd Pwyllgor yr Ofalaeth, y Dr. Tudor Ellis (Eglwys y Bryn). Cyfeiriodd y Dr. Ellis at rôl driphlyg y Parch. Gwenda Richards. Yn gyntaf bydd yn “angel”, sef negesydd Duw yn lledaenu’r Newyddion Da. Yn ail, fel Bugail, bydd yn gofalu am ei phraidd; a hithau yn berson o brofiad a diddoredebau eang, gall dynnu ar y rhain i estyn allan i’r praidd ehangach yn y gymuned. Yn drydedd, hi yw’r ferch gyntaf i fugeilio’r Ofalaeth hon, ac mae hyn yn adlewyrchiad priodol iawn o gyfraniad allweddol merched yn cynnal gwaith ein heglwysi heddiw.

Wrth ymateb i’r croeso, ac yn llawn gobaith ar gyfer y bartneriaeth newydd ym Mro Lleu, fe bwysleisiodd y Parch. Gwenda Richards arbenigrwydd arloesol y patrwm o fugeiliaeth gydweithredol sydd ar gychwyn yn y fro, a’r gobaith y gall hwn osod patrwm ar gyfer y dyfodol.

Traddodwyd pregeth rymus gan y Parch. Ddr. Elwyn Richards. Diflannodd yr Iesu, meddai, o ran y person cig-a-gwaed, ar adeg yr Esgyniad; a pherthynas ysbrydol ar sail ffydd yw ein perthynas â Christ bellach. Gall ansicrwydd daro’r credinwyr o hyd, ond rhaid mentro bod yn weithgar a hyderus. Wedi’r Pentecost, daeth y disgyblion yn ddigon hyderus i bregethu’r Gair eu hunain, ac wrth y gwaith o dystio a chenhadu y deuwn ninnau i weld perthnasedd ein ffydd i’n cyfnod a’i ddilyn ar hyd llwybrau newydd. Cadarnhawyd gwaith yr Apostolion gan arwyddion, ac mae’n rhaid i ninnau chwilio am y fendith a fydd yn dilyn ein gweithgarwch. Fe welir cynnydd trwy gydweithio a bod yn hyblyg; bydd dylanwad yr eglwysi yn ymestyn, a thrwy bopeth bydd addoli yn ganolog i’r twf.

Wedi’r oedfa, cafwyd hoe ddiddan i aelodau’r Ofalaeth gael sgwrsio yng nghwmni’r Gweinidog a’r gwahoddedigion, gyda lluniaeth rhagorol wedi ei ddarparu gan Bopty’r Foel, Llanllyfni, gyda gwirfoddolwyr o Gapel y Groes yn helpu i weini.

Roedd amrediad oedran cynulleidfa’r noson yn eithriadol o eang – efallai’n unigryw. Roedd blaenor hynaf yr Ofalaeth, Miss Dilys O’Brian Owen, sy’n 100 oed, yn bresennol, yn ogystal â Noa Gwilym Pritchard (mab y Dr. Gwilym Sion a Mrs. Elen Pritchard) sydd bron yn bedwar mis oed.

Ar derfyn y noson, teimlai pawb fod cyfnod newydd, yn llawn bendith a gobaith, ar gychwyn yn yr Ofalaeth.
Robert Morris

y cyfeilydd Cyfeiliwyd ar yr organ gan Miss Karen Owen, Penygroes, a pharatowyd lluniaeth i bawb ar derfyn yr oedfa.
     
4 unigolyn
babi
 
Yr ieuengaf a'r hynaf.
Noa
 

Pererindod Capel y Groes

Fore Sul, Medi'r 22ain aeth aelodau Capel y Groes ar bererinPererindod Capel y Groesdod i Benrhyn Llŷn. Ein bwriad oedd dilyn peth o daith y pererinion o Glynnog i Ynys Enlli. Arweinydd y daith oedd John Dilwyn Williams ac mae'n diolch yn fawr iddo am ei drefniadau trylwyr. Dringodd pawb i fws bach Garej Ceiri gydag Ifan wrth y llyw yn edrych ymlaen cymaint â'r un ohonom am y daith.

Y lle cyntaf i ni alw oedd Eglwys Beuno Sant yng 'Nghlynnog Fawr yn Arfon'; fel ei galwyd yn yr hen ddyddiau; oedd yn gyrchfan bwysig fel lle i aros ar daith y pererinion. Cawsom fraslun o hanes yr eglwys gan Dilwyn ar y cychwyn a gwelwyd nifer o greiriau fel 'Cyff Beuno' a'r efail gŵn a'r beddau diddorol yn y fynwent gan gynnwys bedd Eben Fardd a'i deulu. Mae yna lawer o wybodaeth am hanes yr eglwys a'r ardal ac fe allem fod wedi treulio llawer mwy o amser yno. Lle difyr a diddorol yn llawn gwybodaeth wedi ei arddangos yn gelfydd a chwaethus iawn.

Eglwys fach hynafol Beuno Sant ym Mhistyll oedd y lle nesaf ar ein taith. Diddorol oedd sylwi bod brwyn yn dal i gael eu rhoi ar y llawr fel ers talwm. Eglwys fechan ond clyd iawn, heb olau trydan ac mae lle i ganmol y rhai ffyddlon, prin sy'n dal yn ddyfal i gadw'r drws yn agored. Wedi cyflwyniad gan Dilwyn cafwyd gwasanaeth byr yno cyn mynd ymlaen a chyrraedd Eglwys Llangwnnadl.

Eglwys sydd wedi ei henwi ar ôl y Sant Gwynhoedl, oedd eto yn fan aros bwysig ar y daith i Enlli. Y peth cyntaf y sylwyd arni oedd y giât arbennig i fynd drwyddi gyda'r groes Geltaidd wedi ei llunio arni. Cafwyd peth o hanes yr eglwys gan Dilwyn a ddangosodd rai o feddfeini diddorol oedd yn y fynwent gan gynnwys bedd Owen Griffith – 'Dyn y Ddafad Wyllt!'. Yn yr eglwys gwelsom gastin o hen Gloch Efydd Geltaidd, (mae'r un wreiddiol gan yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd) mae'n dyddio'n ôl i'r chweched ganrif. Gerllaw mae 'Cae eisteddfa' ble byddai'r pererinion yn gorffwyso.

Erbyn hyn 'roedd pawb yn edrych ymlaen at ginio ac roeddem yn falch iawn o gyrraedd Gwesty Tŷ Newydd, Aberdaron ble cawsom wledd heb ei hail. Wedi seibiant yno aeth pawb yn ôl i'r bws ac aeth Ifan â ni ymlaen drwy Uwchmynydd i ben pellaf y penrhyn ble gwelsom Ynys Enlli, cyrchfan y pererinion, yn gorwedd yn urddasol yn haul pnawn braf o Fedi. Fe gredai'r hen bererinion fod tair taith i Enlli yn gyfystyr ag un daith i Rufain a chredir fod ugain mil o'r saint wedi eu claddu ar yr ynys!

Cyrhaeddwyd yn ôl ym Mhenygroes yn hwyr y prynhawn gyda phawb wedi mwynhau ac yn canmol gan edrych ymlaen yn barod at bererindod y flwyddyn nesaf!

Am fwy o luniau, cliciwch yma.


Ar fore Sul, Mai 12ed, bu dau achos dathu yng Nghapel y Groes, Penygroes.
2 bersonY dathliad cyntaf oedd cyfarch Miss Dilys O Brien Owen, a fu yn flaenor yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru ers 70 mlynedd. Fe’i codwyd yn flaenor yn Ellesmere Port yn 1943, yng nghanol yr Ail Ryfel Byd. Yr ail destun dathlu oedd degmlwyddiant addoldy pwrpasol Capel y Groes. Ffurfiwyd yr achos hwn trwy uniad achosion Bethel a Saron yn y pentref yn 2001 a bu’r aelodau yn addoli yn yr adeilad newydd ers Ebrill 7ed 2003.

Addurnwyd y Capel ar gyfer y dathliad dwbl gyda chardiau penblwydd a baneri a grëwyd gan blant yr Ysgol Sul. Dan arweiniad Gwenno Jones a Llinos Parry gyda rota o rieni yn helpu mae yma Ysgol Sul llewyrchus gyda’r plant yn cael ystod eang o brofiadau.

Cafwyd gwasanaeth arbennig wedi ei lunio gan ein gweinidog, y Parch. Deian Evans. Yn ei anerchiad fe roes i’r gynulleidfa luosog gyd-destun o’r hyn oedd yn digwydd yn y byd pan godwyd Miss O’ Brien Owen yn flaenor: Dywedodd wrthym bod y byd yng nghanol rhyfel; roedd Winston Churchill yn Brif Weinidog Prydain, Franklin Roosevelt yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ac roedd unbeniaid yn rheoli,, fel Stalin yn Rwsia, Mussolini yn yr Eidal a Hitler yn yr Almaen.

“Dyma flwyddyn adeiladu’r Pentagon, blwyddyn y Bevin boys, y Dam Busters, newyn yn Bengal yn lladd 3 miliwn o bobl. Blwyddyn y ffilmiau ‘ For Whom the Bell Tolls’ a ‘Lassie Come Home’; llwyddiant cerddorol i Frank Sinatra ifanc a Glenn Miller. Blwyddyn geni Billie Jean King, Arthur Ashe, George Harrison a Mick Jagger, John Major a Dafydd Wigley.”

“Heddw rydan ni yn dathlu digwyddiad holl bwysig yn hanes yr Eglwys a’r achos hwn a ddigwyddodd 70 o flynyddoedd yn ôl, mewn cyfnod sydd yn hen, hen hanes i’r rhan fwyaf ohonom ni, sef ordeinio Miss Dilys O Brien Owen yn Flaenores yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ond wrth inni wneud hyn, mae’n rhaid nodi, a hynny yn gwbl eglur, nad dathlu digwyddiad hanesyddol a wnawn ni yma yn awr, ond yn hytrach dathlu gwasanaeth cyson dros y cyfnod ers 1943. Nid digwyddiad a fu ac a ddarfu oedd yr ordeinio yna, ond cyflawni, o ddydd i ddydd, o fis i fis, o ddegawd i ddegawd, yr addewidion a wnaed gan Miss O Brien Owen yn yr ordeiniad hwnnw.

Dathlu gwasanaeth a wnawn yma heddiw, gwasanaeth a roddwyd yn ffyddlon i Eglwys Crist, gwasanaeth di-dor, dirwgnach, anhunanol ac mewn ysbryd o gariad brawdol. Yn unol â gorchymyn Crist ei hun i’w weision pan ddywedodd: ‘Ewch i’r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i’r greadigaeth i gyd, a dysgwch iddynt gadw fy ngorchmynion”

Yn ystod Cyfarfod Gwanwyn Cymdeithasfa’r Gogledd ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar cawsai cyfraniad Miss O’Brien Owen ei nodi, a chyflwynwyd tystysgrif ynghyd a llythyr gan y Llywydd iddi gan y Gweinidog yn ystod yr oedfa hon.

Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth yn Nghapel y Groes gan Eluned Hunter gyda chyflwyniad ar y piano; Dr Sion Pritchard, a wnaeth ddarlleniad o’r Ysgrythur, a chyflwyniad ar y ffliwt gan Megan Hunter.

Roedd Karen Owen, sydd yn Flaenor yng Nghapel y Groes, wedi llunio cywydd hynod o addas i Miss O’Brien Owen (cliciwch yma) a chyflwynwyd copi wedi ei fframio iddi.

rhes o blantYn ystod y gwasanaeth bu plant yr Ysgol Sul yn ddefnyddio’r llythrennau CAPEL Y GROES i nodi pam eu bod yn hoffi dod i’r capel a’r Ysgol Sul ac roedd ganddynt luniau o’r tripiau a gawsant i Ynys Llanddwyn ac i’r Tŷ Mawr, Wybrnant. Cafwyd eitemau cerddorol gan Elan ar y recorder, Aaron a Guto yn chwarae deuawd ar y corn, Lleucu ar y ffliwt a Sara ar y piano a’r plant i gyd yn canu dwy gân addas sef ‘Ar Ddydd Penblwydd’ a’r gan ‘Gyda’n Gilydd’.

Ar ddiwedd y gwasanaeth cafwyd cyfnod cymdeithasol gyda pawb yn mwynhau’r baned a baratowyd i gyd fynd â’r deisen ‘penblwydd’. Cliciwch yma i weld mwy o luniau


EISTEDDFOD YR URDD

Llongyfarchiadau i’r canlynol a fu’n llwyddiannus yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarthol:

Aaron (Bl. 2 ac iau) yn y cystadlaethau Unawd a Llefaru ac yn aelod o’r parti canu.

Elan (Bl. 2 ac iau) Print Lliw; Cyfres o Brintiau Lliw; Gemwaith ac aelod o Grwp yn y gystadleuaethCreu Arteffact o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu) a

Lleucu (Bl. 5 a 6) Gwaith Creadigol 3D (Tecstilau) a chwarae’r ffliwt yn yr Unawd Chwythbrennau.

Bu Megan Hunter, yn chwarae’r ffliwt yn yr Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 7,8,9 a rhai o aelodau y Clwb Pobl Ifanc yn aelodau o Barti Llefaru Aelwyd Dyffryn Nantlle, Blwyddyn 7,8,9. Buasant yn fuddugol yn yr Eisteddfodau hyn a c felly maent yn mynd drwodd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro.
Dymunwn bob lwc iddynt.


Paned a Sgwrs 26/10/2012
paned a sgwrsYn ystod y sesiwn Paned a Sgwrs yn y capel bore ma cyflwynwyd siec am £340.00 i Mrs Elizabeth Parry tuag at Ymchwil Canser. Casglwyd yr arian yn ystod y flwyddyn ym moreau Paned a Sgwrs.

Yn ogystal daeth rhai o blant ieuengaf Ysgol Bro Lleu draw i gael gwasanaeth Diolchgarwch byr, gyda Deian Evans, ein gweinidog yn annerch y plant.

Cliciwch yma i weld y lluniau


TAITH GERDDED APEL GWATEMALA
cerddwyrDdydd Sadwrn, Medi 29, roedd aelodau Capel y Groes, Pen-y-groes, yn falch o weld haul ac awyr las, wrth iddyn nhw gychwyn ar daith gerdded bum milltir er mwyn codi arian i Apel Gwatemala, Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Cychwyn o flaen y capel, ac yn eu Blaenau i fyny Ffordd y Brenin, ar yr Hen Lon i Dal-y-sarn; heibio i Glogwyn Melyn. I lawr trwy Goedmadog, wedyn, i ben draw pentref Tal-y-sarn, cyn pasio Capel Mawr John Jones, hen ardal Pen-bont, ac ymlaen am Chwarel Dorothea.
Unwaith y pasiwyd y ty pwmpio sydd bellach wedi’i restru ac ar fin cael ei adnewyddu, pasio adfail y sied anferth; dan y coed, heibio i hen drac y tren bach o Nantlle, heibio i’r deifwyr a gweddillion truenus Plas Dorothea… ac yn eu holau am Dal-y-sarn.

Ar y ffordd gartre’, cafwyd te bach a bwffe bendigedig yng ngwinllan Pant Du, ac fe ddaeth rhai aelodau na cherddodd y daith yno hefyd i gael cinio.

Diolch i bawb a gerddodd, a drefnodd ac a noddodd y cerddwyr. Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Bws Cyfiwander Treth

Fore Mercher, Medi 26 bues i fel cynrychiolydd o Gapel y Groes Penygroes ymysg cefnogwyr Cymorth Cristnogol yn ymweld a’r Bws Cyfiwander Treth ym Mangor. Roedd y digwyddiad yn rhan o daith o amgylch Prydain ac Iwerddon er mwyn cyflwyno neges Cymorth Cristnogol am gyfiawnder treth .
“Amcangyfrifir bod osgoi talu trethi yn costio $160bn yn flynyddol i'r gwledydd tlawd - tua un a hanner gwaith yr hyn maent yn derbyn mewn cymorth rhyngwladol!
Bylchau o fewn y sustem ariannol fyd-eang sy'n gyfrifol am hyn gyda chwmniau anegwyddorol yn ceisio elwa arnynt.
Yr ydym yn mynd ar daith o gwmpas Prydain ac Iwerddon er mwyn dod â phobl ynghyd mewn ymgais i gael gwared â'r anghyfiawnder enbyd yma." Cymorth Cristnogol
Roedd un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, Ricardo Quezeda o Guatemla ar y bws yn sôn am y ffordd y mae osgoi'r dreth yn effeithio ar eu bywydau, a'r hyn maent yn ei wneud i sicrhau cyfiawnder treth.
Gwyliwn am gyfleoedd felly o fewn ein Heglwysi i weithredu er mwyn unioni y cam enbyd hwn.
Diolch yn fawr
Judith Humphreys


TAITH Y SAINT - Pererindod Gofalaeth Dyffryn Nantlle

pererindodDilyn dau sant oedd bwriad 50 o bererinion o Ddyffryn Nantlle ar Fedi 23, wrth iddyn nhw gychwyn mewn bws o Ben-y-groes ar drywydd Seiriol wyn a Chybi Felyn ym Môn.

Wedi oedfa yn Eglwys Penmon (mangre Seiriol, gynt) ac Eglwys y Bedd, Caergybi (lle mae gweddillion Cybi wedi eu claddu), y gyrchfan oedd Clorach yng nghanolbarth yr ynys - lle'r arferai'r ddau sant gyfarfod yn rheolaidd er mwyn trafod pethau o bwys.

Erbyn heddiw, dim ond un ffynnon sydd i'w gweld, er bod trigolion Clorach Fawr, Clorach Fach a'r ardal ehangach, yn dal i dynnu dwr claear ohonyn nhw tan yr 1950au.

Yn y gwasanaeth ym Mhenmon, canwyd emynau ac fe ddarllenwyd adnodau o drydedd bennod o lythyr Paul at yr Effesiaid, lle mae'r apostol yn pwysleisio mai "cyfrinach" y canrifoedd oedd fod gan bawb o holl genhedloedd y byd yr hawl i wneud cysylltiad â Duw - nid yr Iddewon yn unig. Ac yn y weddi pwysleiswyd mai sant, yn ôl diffiniad yr Eglwys Fore, ydi pawb sy'n credu yn Iesu Grist.

Meibion brenhinoedd oedd Seiriol a Chybi, dau a benderfynodd gefnu ar orseddau a chyfoeth er mwyn dilyn bywydau llai treisgar a mwy ysbrydol.

Ond mae'n bwysicach nac erioed i bwysleisio mai dynion oedd yn byw yn y byd go iawn oedden nhw ill dau. Dau oedd yn ffermio'n organig, yn byw'n hunangynhaliol, ac yn helpu'r tlodion ac yn rhan o'r gymdeithas o'u cwmpas. Ac yn ôl diffiniad arall, "Sant ydi dyn (neu ddynes) sy'n gwneud hi'n haws i eraill gredu yn Nuw".
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Seiriol Wyn a Chybi Felyn

Seiriol Wyn a Chybi Felyn,
mynych fyth y clywir sôn
am ddau sant y ddwy orynys
ar dueddau Môn.

Ynys Cybi ym Môr Iwerddon,
trosti hi’r âi’r haul i lawr,
Ynys Seiriol yn y dwyrain
tua thoriad gwawr.

Seiriol wyn a Chybi felyn,
cyfarfyddant, fel mae’r sôn,
beunydd wrth ffynhonnau Clorach,
yng nghanolbarth Môn.

Seiriol, pan gychwynai’r bore,
cefnu wnâi ar haul y nef;
wrth ddychwelyd, cefnai hefyd
ar ei belydr ef.

Haul y bore’n wyneb Cybi
a dywynnai’n danbaid iawn;
yn ei wyneb y tywynnai
eilwaith haul prynhawn.

Wyneb Cybi droes yn felyn,
wyneb Seiriol ddaliai’n wyn,
dyna draetha’r cyfarwyddid
am y ddeusant hyn.

John Morris-Jones

Amser: 11.15-12.00 yn ystod tymor yr ysgol, yn dilyn yr Oedfa yn y Capel.

Arolygwyr: Gwenno Jones a Llinos Parry

Athrawon: Rota o rieni’r plant yn helpu’r arolygwyr.

Digwyddiadau: Bydd yr ysgol Sul yn trefnu Oedfa Foreuol Diolchgarwch, a Phasiant Nadolig y Plant. Cant drip i weld Siôn Corn adeg y Nadolig a thrip ar ddiwedd tymor yr haf.

 

Clwb Ieuenctid Eglwysi Bro Lleu

Clwb Ieuenctid Bro Lleu dan arweiniad y Gweinidog
Lleoliad ac amser: Yn cyfarfod yn y bob dydd Mawrth rhwng 4 a 6 y prynhawn, heblaw gwyliau ysgol.

Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.

Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.

Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans.

 

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

Isod mae lluniau Capel y Groes. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma

mosaig

Cliciwch yma i weld lluniau o Gapel y Groes

 

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01248 370463
E-bost: post@henaduriaetharfon.org