Cysegr, Bethel

 

image

 

Enw’r Eglwys: Capel y Cysegr

Lleoliad: Bethel, Arfon LL55 3AA

Gweinidog: Parch Marcus Wyn Robinson
01248 671255 marcuswyn@btinternet.com

 

 

Swyddogion:
Ysgrifennydd : Mr Jenkin Morgan Griffiths 01248 670102 llwyneithin@btinternet.com
Trysorydd: Mr Gareth W. Griffiths 01248 670704
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: Mr Geraint Elis 01248 670 726 g.elis029@btinternet.com
Hefyd:Mr Richard Lloyd Jones, Mrs Glenys Griffiths, Dr J Elwyn Hughes, Mrs Rita Dauncey Williams

Amseroedd cyfarfodydd:
Gwasanaeth o fawl bob bore Sul am 10 o’r gloch ynghyd ag ysgol Sul. Mae’r plant yn bresennol yn y rhannau dechreuol o’r gwasanaeth a gwahoddir y cennad i sgwrsio hefo’r plant. Yn dilyn cyd-adrodd Gweddi’r Arglwydd ymadawant i’r Festri gyda’u hathrawon.

Digwyddiadau Eraill
Mae amrywiol Gymdeithasau’r pentref yn defnyddio festri y Capel i gynnal cyfarfodydd:
- Cangen Merched y Wawr, Bethel
- Pwyllgorau a chyfarfodydd yr henaduriaeth
- Cylch Ti a Fi yn cyfarfod bob bore Dydd Mercher yn ystod tymor ysgol
- Grŵp Yoga bob Nos Lun
- Cymdeithas Lenyddol Undebol yn fisol yn ystod y gaeaf
- Clwb Bro Bethel yn fisol yn ystod y gaeaf
- Pwyllgorau Mudiadau’r pentref megis Eisteddfod y pentref

Yn gysylltiedig â’r Capel mae gennym Bwyllgor Gweithgareddau sydd yn trefnu amrywiol weithgareddau cymdeithasol er hyrwyddo cymdeithasu a chymysgu yn y pentref ac i godi arian i’r capel.

Adeiladwyd y capel yn1864 a daeth yr aelodau cyntaf o wahanol gapeli yn y cylch sef Rhydfawr a Capel Tan-y-Maes a Chapel Nazareth. Dim ond 16 o aelodau oedd yno ar y dechrau.

Heddiw mae’r aelodaeth yn 150 ac mae’r eglwys yn rhan o Ofalaeth ‘Glannau’r Saint’ sef Capeli Cysegr, Bethel, Caeathro a Chapel y Rhos, Llanrug.

Nora, Nan, GlenysNewyddion Medi 2013

Mewn gwasanaeth arbennig a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghapel Penuel Bangor cyflwynwyd y Fedal Gee i Nan Owen i gydnabod ei gwasanaeth i Ysgol Sul y Cysegr dros nifer o flynyddoedd.




10.05.13

Ysgol Sul Cysegr. Plant yn cael eu cyflwyno i Apêl Cymorth Cristnogol



 


plant21:10:12

Gwasanaeth Diolchgarwch yn Y Cysegr, Sul Hydref 21, o dan ofal Yr Ysgol Sul.

Ciciwch yma i weld Plant yr Ysgol Sul a rhan o'r gynulleidfa.

 

 

Derbyn Medal Gee

Nora, Nan, Glenys

Dyma lun o Nan Owen, (canol) Y Cysegr ar ôl iddi dderbyn Medal Gee yn ddiweddar ym Mangor hefo dwy o'i chyd athrawon.

 


 


Enw: Ysgol Sul Cysegr yn cyfarfod am 10 o’r gloch yn y Capel i rannau dechreuol o’r Gwasanaeth ac yna’n symud i’r Festri gydau’u hathrawon.

Arolygwr: Myfanwy Harper 01248 362139

Athrawon: Glenys Griffiths, Eleri Moss, Nan Owen, Nora Parry, Ceinwen Williams, Rita Dauncey Williams a Manon Griffiths

Dosbarthiadau: Mae’r plant a’u hathrawon yn bresennol yn rhannau dechreuol o’r Oedfa cyn ymadael i’r Festri.

Gwyliau Arbennig
Cynhelir gwasanaethau arbennig i ddathlu Gŵyl Ddewi, Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig pryd bydd Plant yr ysgol Sul yn cymeryd rhan a cheir cefnogaeth dda gan y rhieni i’r gwasanaethau hyn. Ers nifer o flynyddoedd dethlir y Nadolig gyda gwasanaeth Cymun arbennig ar fore dydd Nadolig am 10 o’r gloch pryd bydd y Capel yn gyfforddus lawn.

Grŵp wedi dod i ben.

Posibl y bydd rhyw fath o gyfarfod yn cymryd lle yn y dyfodol, caiff unrhyw fanylion ynglŷn ag hyn eu hychwanegu pan gaiff ei phenderfynu.

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

Isod mae lluniau Cysegr. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma

mosaig

Cliciwch yma i weld lluniau o Cysegr, Bethel

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org